![]() |
6 Hydref 2015
Annwyl Carl
Gwnaethom gynnal sesiwn ddilynol ar 26 Chwefror 2015 i ystyried y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i weithredu ei hymrwymiadau morol. Hon yw’r ail sesiwn o’i bath yr ydym wedi’i chynnal ers i ni gyhoeddi ein hadroddiad ar bolisi morol yng Nghymru am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2013. Croesawn y wybodaeth ddiweddaraf gennych ar y Cynllun Gweithredu Strategol Morol a Physgodfeydd a’r ffaith ei fod yn mynd i’r afael â rhai o’r pryderon a godwyd gan randdeiliaid yn eu tystiolaeth i’r Pwyllgor.
Yn ychwanegol at y dystiolaeth hon, rydym yn nodi isod ein hasesiad o’r cynnydd. Rydym hefyd yn gofyn am ragor o wybodaeth gennych mewn nifer o feysydd.
1. Blaenoriaethu polisi morol
Roeddem yn falch o nodi bod rhanddeiliaid yn teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gyflawni ei hymrwymiadau morol. O ystyried graddfa’r her sydd o’n blaenau a phwysigrwydd yr amgylchedd morol i Gymru, rydym yn croesawu yn arbennig Raglen Pontio Morol Llywodraeth Cymru. Nodwn yr holl waith y mae’n rhaid i’r Rhaglen hon ei chwblhau yn ystod y 12 mis nesaf ac rydym yn pryderu o glywed adroddiadau gan randdeiliaid y gallai cyllid ar gyfer y rhaglen hon gael ei dorri. Felly, byddem yn croesawu eglurhad ar y gyllideb ar gyfer y Rhaglen Pontio Morol ar gyfer 2015-16 a chadarnhad ynghylch a yw’r cyllid ar gyfer y rhaglen yn debygol o gael ei leihau.
Fel y nodwyd yn ein llythyr dilynol cyntaf, rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried ein hargymhellion ar gydgysylltu polisi morol a physgodfeydd yn well drwy gyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Strategol Morol a Physgodfeydd. O ystyried y llu o dargedau, cynlluniau ac ymrwymiadau sydd ar waith ar gyfer yr amgylchedd morol, mae’r Cynllun Gweithredu hwn yn offeryn cyfathrebu hanfodol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y gwaith o gyflawni’r rhaglen forol. Roeddem yn pryderu, felly, o glywed gan randdeiliaid bod y diweddariad a ddisgwylir i’r cynllun hwn wedi cael ei ohirio. Fel y pwysleisiodd sefydliadau pysgota i ni, mae rhaglenni gwaith tryloyw gyda llinellau amser cyflenwi clir yn bwysig nid yn unig i ennyn ymddiriedaeth rhanddeiliaid ond hefyd er mwyn galluogi sefydliadau allanol i drefnu eu rhaglenni gwaith eu hunain.
Felly, rydym yn croesawu’r diweddariad a ddarparwyd gennych ar 1 Ebrill a’r wybodaeth y mae’n ei rhoi ar eich blaenoriaethau strategol ar gyfer gweddill y Cynulliad hwn. Nawr eich bod wedi nodi’r blaenoriaethau strategol pwysicaf ar gyfer cyflawni, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i phartneriaid allweddol i nodi’r ffyrdd y gallant helpu i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r amcanion pwysig hyn. Dylai hwn gynnwys datganiad clir ynghylch y llinellau amser ar gyfer cyflawni gan y bydd hwn yn galluogi’r rheini y tu allan i’r Llywodraeth i sicrhau’r cyfraniad gorau posibl.
Rydym yn edrych ymlaen at glywed sut y mae’r gwaith hwn wedi datblygu yn ystod sesiynau craffu yn y dyfodol.
Rydym yn nodi ers i ni ystyried y polisi morol ddiwethaf bod Bwrdd Llywodraethu Strategol Morol wedi cael ei sefydlu yn Llywodraeth Cymru i gynorthwyo gyda phrif ffrydio polisi morol ar draws adrannau. Rydym yn croesawu’r datblygiad hwn yn fawr ac yn falch o glywed bod rhanddeiliaid yn teimlo bod cynnydd wedi’i wneud yn y maes hwn. Fodd bynnag, rydym hefyd yn nodi bod rhanddeiliaid yn parhau i fod yn ansicr ynghylch sut y bydd cynllunio gofodol morol yn alinio â’r cynigion ar gyfer ardaloedd a pholisïau adnoddau naturiol a geir yn y Bil Amgylchedd. Rydym yn cytuno â Chyfoeth Naturiol Cymru bod cynnwys yr amgylchedd morol yn y Bil Amgylchedd mewn modd priodol yn ‘her allweddol’ i Lywodraeth Cymru ac edrychwn ymlaen at ystyried y mater hwn fel rhan o’n gwaith craffu ar y Bil Amgylchedd. Roeddem yn siomedig o glywed gan sefydliadau pysgota nad oeddent yn teimlo bod y Bwrdd Strategaeth Bioamrywiaeth wedi rhoi digon o ystyriaeth i’r amgylchedd morol a gobeithiwn y bydd hyn yn cael sylw yn natblygiad y Cynllun Adfer Natur. Byddem yn croesawu rhagor o wybodaeth am sut y bydd yr amgylchedd morol a bioamrywiaeth forol yn cael eu hymgorffori yn y Cynllun Adfer Natur.
2. Cynllunio Gofodol Morol
Ar ôl llawer o oedi o ran datblygu’r cynllun gofodol morol roeddem wedi croesawu’r ymrwymiad o’r newydd gan Lywodraeth Cymru i fabwysiadu iteriad cychwynnol o’r Cynllun Morol erbyn diwedd 2015. Pwysleisiwyd pwysigrwydd y Cynllun hwn unwaith eto yn ein sesiwn ddilynol. Yn eu tystiolaeth, nododd rhanddeiliaid mai mabwysiadu’r Cynllun Morol oedd, efallai, y flaenoriaeth bwysicaf ar gyfer polisi morol yng Nghymru. Er bod rhanddeiliaid wedi dweud wrthym y byddai’r terfyn amser o fis Rhagfyr 2015 yn uchelgeisiol o ystyried maint y gwaith sy’n ofynnol, pwysleisiwyd y pwysigrwydd o sicrhau bod y terfyn amser hwn yn cael ei gadw. Yn gyffredinol ystyriwyd bod darparu adnoddau priodol ar gyfer y Cynllun Morol a’r broses ar gyfer ei fabwysiadu yn hollbwysig.
Felly, rydym yn pryderu ei bod yn ymddangos nawr bod diffyg eglurder gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â phryd y bydd iteriad cyntaf y cynllun yn cael ei fabwysiadu. Nodwn eich bod yn dweud yn eich datganiad y ‘byddwch mewn sefyllfa i gyhoeddi’r cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf i Gymru erbyn diwedd y flwyddyn hon’. Gofynnwn i chi egluro ar frys os caiff iteriad cyntaf y cynllun ei fabwysiadu yn ffurfiol cyn diwedd y Cynulliad hwn.
Nodwn fod Datganiad Cyfranogiad y Cyhoedd sy’n cynnwys llinell amser ar gyfer mabwysiadu’r Cynllun Morol yn datgan y bydd y Cynllun yn cael ei fabwysiadu erbyn 2015. O ystyried pwysigrwydd y ddogfen hon ar gyfer y rhai sy’n dymuno cymryd rhan yn y broses gynllunio, gofynnwn am eglurhad ynghylch a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu diwygio’r Datganiad os yw’r llinellau amser ar gyfer mabwysiadu’r Cynllun wedi newid.
3. Sylfaen Dystiolaeth
Pwysleisiwyd pwysigrwydd parhaus datblygu sylfaen dystiolaeth effeithiol i gynnal y gwaith o ddatblygu’r Cynllun Morol a rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn y dystiolaeth a gawsom. Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal Ymarfer Cwmpasu Strategol ar ddata fel rhan o’r broses cynllunio morol ac wedi dechrau gweithio ar ei phorth morol.
Rydym yn credu bod angen gwaith o hyd i sicrhau bod gennym sylfaen dystiolaeth effeithiol i gynnal polisi morol yng Nghymru. Nodwn bryderon rhanddeiliaid bod Llywodraeth Cymru heb gyhoeddi Strategaeth ar gyfer Tystiolaeth Forol i Gymru eto na sefydlu Grŵp Strategaeth ar Dystiolaeth Forol fel yr addawyd yn y Cynllun Gweithredu Strategol Morol a Physgodfeydd. Nodwn bryderon y gallai unrhyw ostyngiad i gyllidebau morol arwain at ostyngiad yn yr arian sydd ar gael ar gyfer yr elfen Sylfaen Dystiolaeth Effeithiol o’r Rhaglen Pontio Morol. O ystyried pwysigrwydd sylfaen dystiolaeth effeithiol ar gyfer cyflawni gwaith morol Llywodraeth Cymru rydym yn gofyn am eglurhad o ran a ydych yn bwriadu lleihau’r cyllid ar gyfer yr elfen hon o’r Rhaglen Pontio Morol a manylion unrhyw ostyngiad a’i oblygiadau. Byddem hefyd yn croesawu diweddariad o ran pryd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi Strategaeth ar gyfer Tystiolaeth Forol a phryd y mae’n bwriadu sefydlu Grŵp Strategaeth ar Dystiolaeth Forol.
Er ein bod yn croesawu lansiad cychwynnol y porth data morol gan Lywodraeth Cymru rydym yn cytuno â rhanddeiliaid y bydd angen gwneud llawer o waith os yw’n mynd i ddod yn offeryn defnyddiol i gynorthwyo rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Nodwn farn rhai rhanddeiliaid y byddai cyhoeddi Rhaglen Waith i’r Dyfodol ar gyfer y porth yn rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr am ddatblygiadau yn y dyfodol a hefyd yn galluogi sefydliadau allanol i ystyried sut y gallai eu setiau data eu hunain gyfrannu at gynnwys y porth yn y dyfodol. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu rhaglen waith i’r dyfodol ar gyfer y porth, ac, yn y cyfamser, byddem yn croesawu diweddariad ar y llinell amser ar gyfer ei datblygu yn y dyfodol.
Nodwn, fel yr ydym wedi’i wneud mewn adroddiadau blaenorol, frwdfrydedd a chefnogaeth sefydliadau pysgota i gynnwys eu haelodau mewn prosiectau casglu data. Rydym yn cydnabod y bydd angen i unrhyw brosiectau o’r fath sicrhau bod data yn cael ei gasglu mewn fformat cyson ac addas ond yn cefnogi’r farn y gallai wneud cyfraniad defnyddiol. Rydym yn croesawu’r gydnabyddiaeth y mae eich diweddariad yn ei wneud ynghylch y rôl bwysig y dylai pysgotwyr ei chwarae wrth gasglu tystiolaeth. Rydym yn gobeithio gweld rhywfaint o’r gwaith hwn a gefnogir gan Gronfa Môr a Physgodfeydd Ewrop yn cael ei ddatblygu unwaith y bydd Rhaglen Weithredol y DU wedi cael ei chymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd.
4. Ardaloedd Morol Gwarchodedig
Croesawn eich cyhoeddiad diweddar bod Rhan 5 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 bellach ar waith yng Nghymru a bod Skomer wedi’i dynodi’n swyddogol yn Barth Cadwraeth Morol cyntaf Cymru. Edrychwn ymlaen at weld mesurau rheoli newydd yn cael eu datblygu ar gyfer y safle pwysig hwn. Croesawn hefyd yr estyniadau i’r Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig sy’n bodoli sydd wedi digwydd ers i ni ystyried y mater hwn ddiwethaf a’r gwaith ymgysylltu cynnar mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dechrau ymgymryd ag ef ar ddynodi safleoedd pellach ar gyfer adar môr a llamhidyddion.
Rydym yn parhau i fod yn bryderus am y cynnydd a wnaed ar yr adolygiad o’r rhwydwaith presennol o Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Roedd hwn yn fater y gwnaethom ei godi gyda’ch rhagflaenydd yn ein llythyr dilynol cyntaf ym mis Mai 2014. Wrth ymateb i’n pryderon am y diffyg eglurder ynghylch yr amserlen ar gyfer yr adolygiad, dywedodd y Gweinidog Adnoddau Naturiol ar y pryd wrthym ym mis Mai 2014 fod disgwyl cwblhau’r gwaith ar ddiwedd haf 2015 ac y byddai’r amserlen ar gyfer y gwaith yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr hydref 2014.
Nodwn o dystiolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, er y bydd rhai canfyddiadau o’r adolygiad ar gael yn haf 2015, nad oes disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau tan 2016. Bydd hyn yn golygu y bydd yr adolygiad yn dod i ben yn yr un flwyddyn ag y bydd disgwyl i Gymru fod wedi cyflawni ei chyfraniad at darged 2016 o gael rhwydwaith cynrychiadol a chydlynol y DU o Ardaloedd Morol Gwarchodedig.
Dywedodd rhanddeiliaid ym maes yr amgylchedd wrthym, er eu bod yn derbyn bod y gwaith adolygu i’w gwblhau mewn cyfrannau, nad ydynt wedi gweld unrhyw ganlyniadau o’r gwaith hyd yma. Mynegwyd pryder ganddynt am y diffyg eglurder ynghylch pwy sy’n bennaf gyfrifol am y gwaith hwn o ran Cymru a galwyd am gyhoeddi amserlen glir ar gyfer cwblhau’r gwaith.
Nodwn resymau Cyfoeth Naturiol Cymru dros yr oedi hwn, sef bod y gwaith yn fwy cymhleth nag a ragwelwyd yn wreiddiol a’i fod wedi wynebu pwysau o ran adnoddau a gwaith. Dylid osgoi oedi pellach gan y bydd yn bwysig sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau mewn pryd i alluogi ystyriaeth briodol o unrhyw safleoedd pellach sydd eu hangen i lenwi’r bwlch yn y rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig cyn y dyddiad cau yn 2016.
Rydym yn cydnabod bod eich diweddariad yn datgan bod y gwaith hwn wedi cael ei ailgwmpasu i ystyried tasgau ychwanegol ond eich bod yn bwriadu defnyddio cyfrif stoc a dadansoddiad o fylchau rhwydwaith yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig i nodi a oes angen gwneud rhywbeth arall i gwblhau’r rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig.
Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi amserlen ar gyfer cwblhau’r adolygiad o rwydwaith yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig a’r camau gweithredu wedi hynny i ddynodi unrhyw safleoedd ychwanegol. Dylai’r amserlen hon gael ei chyhoeddi erbyn diwedd mis Gorffennaf 2015.
Nodwn, fel y gwnaethoch ddisgrifio yn eich tystiolaeth graffu gyffredinol, fod y gwaith ar Barthau Cadwraeth Morol ar y môr wedi cael ei ‘atal’ oherwydd cynigion yn y Cytundeb Dydd Gŵyl Dewi i ddatganoli’r pwerau hyn i Gymru. Mae rhanddeiliaid wedi mynegi rhywfaint o bryder y gallai’r oedi hwn yng Nghymru, tra bod rhannau eraill o’r DU yn symud ymlaen gyda dynodiadau, arwain at ddadleoli gweithgareddau pysgota yn nyfroedd Cymru. Nodwn hefyd y sylwadau a wnaed gan Cyfoeth Naturiol Cymru y bydd angen adnoddau pellach ar unrhyw ddatganoli cyfrifoldebau am ddynodi Parthau Cadwraeth Morol ar y môr. Er ein bod yn derbyn yn llwyr nad chi sy’n gyfrifol am linell amser datganoli’r pwerau hyn, gofynnwn i chi barhau i adolygu’r mater hwn o ddadleoli i atal unrhyw bwysau diangen ar bysgodfeydd o fewn y parth Cymreig. Ar ôl datganoli pwerau byddem yn disgwyl i unrhyw Lywodraeth Cymru weithredu’n gyflym i wneud penderfyniadau ar ddynodiadau yn y dyfodol ar gyfer y parth ar y môr.
5. Pysgodfeydd
Rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn dal yn y broses o gwblhau ei hadolygiad a newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth pysgodfeydd y glannau yng Nghymru. Yn eu tystiolaeth mae rhanddeiliaid wedi mynegi rhywfaint o bryder ynghylch yr amser y mae wedi cymryd i wneud cynnydd gyda’r gwaith hwn a rhwystredigaeth oherwydd y diffyg eglurder ynghylch pryd y mae’r gwaith yn debygol o gael ei gwblhau. Dywedwyd wrthym y byddai symleiddio’r ddeddfwriaeth hefyd yn helpu i gyfrannu at ddulliau gorfodi gwell o ran pysgodfeydd. Croesawn y wybodaeth a ddarparwyd yn y Diweddariad ar eich blaenoriaethau ar gyfer symleiddio deddfwriaeth pysgodfeydd ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn. Edrychwn ymlaen at graffu ar y gwaith hwn ymhellach wrth iddo fynd rhagddo.
Mynegodd rhanddeiliaid ym maes yr amgylchedd bryder parhaus ynghylch gorfodi pysgodfeydd yn nyfroedd Cymru. Nodwyd bod y problemau parhaus o laniadau anghyfreithlon yn tanseilio ymdrechion eraill i reoli stociau pysgod mewn modd cynaliadwy. Roeddent yn derbyn bod diffyg adnoddau yn golygu bod angen dull cydymffurfio sy’n seiliedig ar risg ond gwnaethant alw hefyd am fwy o gydlynu rhwng swyddogion gorfodi pysgodfeydd a swyddogion safonau masnach i fynd i’r afael â phroblemau o ddalfeydd anghyfreithlon yn cael eu gwerthu a’u defnyddio mewn bwytai.
Mae’r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael ar gyfer gorfodi pysgodfeydd yng Nghymru yn ei gwneud hyd yn oed yn fwy pwysig bod cynnydd yn cael ei wneud i symleiddio deddfwriaeth sy’n ymwneud â physgodfeydd. Mae gweithio mewn partneriaeth rhwng asiantaethau gorfodi hefyd yn bwysig o ran sicrhau bod camau effeithiol yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â physgota anghyfreithlon. Felly, rydym yn croesawu’r ymrwymiad yn eich Diweddariad i ddarparu gwybodaeth gliriach i dai bwyta a thafarndai ynghylch eu cyfrifoldebau i brynu pysgod a ddaliwyd yn gyfreithlon. Yn ogystal, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar y cyfleoedd ar gyfer rhagor o weithredu cydlynol rhwng asiantaethau gorfodi yng Nghymru i fynd i’r afael â’r problemau a achosir gan bysgota anghyfreithlon.
Nodwn eich bod wedi datgan bod y DU yn disgwyl cael cymeradwyaeth ar gyfer ei chynigion ar gyfer Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop erbyn diwedd y flwyddyn hon a’ch bod yn credu bod cyfran o 8.5 y cant o’r Gronfa hon ar gyfer Cymru yn ganlyniad teg. Byddem yn croesawu rhagor o wybodaeth am sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gyda rhanddeiliaid yng Nghymru rhwng nawr a mis Rhagfyr i ddatblygu cynlluniau a rhaglenni manylach ar gyfer y Gronfa.
6. Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol
Nodwn gan ei bod hi nawr yn 2015, fod pum mlynedd i fynd tan bod gofyn i’r DU a Chymru sicrhau bod ein moroedd yn sicrhau Statws Ecolegol Da erbyn 2020 o dan Gyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol. Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda llywodraethau ledled y DU i ddatblygu ei chynigion ar gyfer monitro cynnydd a’i bod yn y broses o ymgynghori ar Raglen o Fesurau ar y cyd yn amlinellu’r camau a gaiff eu cymryd i gyrraedd y targed.
Nododd rhai rhanddeiliaid ddiffyg uchelgais yn y mesurau a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad a gwnaethant amlinellu eu barn y gallai fod angen mesurau ychwanegol os yw’r DU i gyrraedd targed 2020. Mynegwyd pryder arbennig am y diffyg mesurau ychwanegol arfaethedig i fynd i’r afael â’r mater o sbwriel morol sy’n un o nodweddion disgrifiadol allweddol y Gyfarwyddeb. Ni fyddem yn dymuno achub y blaen ar ganlyniadau unrhyw ymgynghoriad ac rydym yn disgwyl bod Llywodraeth Cymru, ynghyd â’i llywodraethau cyfatebol yn ystyried unrhyw fater a godwyd yn ystod y broses ymgynghori o ddifrif. O ystyried y pryderon cynyddol am effeithiau sbwriel morol, byddem yn croesawu diweddariad ar gamau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r broblem hon.
Mae sicrhau bod mesurau digonol yn cael eu rhoi ar waith nawr i gyflawni targedau Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol yn bwysig ac rydym yn bwriadu parhau i adolygu cynnydd Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.
Yn gywir

Alun Ffred Jones AC
Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd